Gadeirydd & Cynghorydd Sarah Thomas

Image for Gadeirydd & Cynghorydd Sarah Thomas

Cefais fy ngeni yn Nyffryn Aman a'm magu ym Mrynaman Isaf. Mynychais Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun Cae Gurwen nes i mi fod yn 9 oed pan symudais i Abertawe. Dychwelais i'r ardal fel oedolyn yng nghanol fy ugeiniau ac rwyf bellach yn byw yng Nghwmgors.

Mae gen i gefndir mewn Peirianneg a Thechnoleg, ac yr ydwyf wedi gweithio yn y diwydiant Tech y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn. Rwy'n Aelod o'r Bwrdd, yn Ysgrifennydd ac yn wirfoddolwr rheolaidd yn Nghanolfan Maerdy, yn Nhairgwaith. Rwyf hefyd yn Aelod o Bwyllgor ac yn Ysgrifennydd cangen leol Addysg Oedolion Cymru.

Yr wyf yn angerddol am degwch, cydraddoldeb a chyfiawnder. Rwyf hefyd wedi buddsoddi'n fawr mewn lles meddyliol a chorfforol ac mae gennyf ddiddordeb ynddynt. Yr wyf yn niwro-amrywiol. 

Yn 2022 cefais fy ethol yn un o Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol ar gyfer ein Ward yn ogystal â Chadeirydd y Cyngor Cymuned.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â mwy o aelodau'r gymuned a chydweithio i sicrhau bod ein ffrindiau, ein teulu, ein cartref a'n cymuned ehangach y gorau y gallant fod. 

Cysylltwch â ni!

A new venture in offering my various professional sound therapy therapies/teaching to a wider clientele. Improve your taste with us and own your perfect replica Rolex watch.